2014 Rhif 3127 (Cy. 316) (C. 136)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 1) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dyma’r gorchymyn cychwyn cyntaf i Weinidogion Cymru ei wneud o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae’n cychwyn darpariaethau penodol yn y Ddeddf at wahanol ddibenion ar 1 Rhagfyr 2014.

Mae erthygl 2(a) yn cychwyn, at bob diben, ddarpariaethau penodol yn Rhannau 4, 5, 6, 8 a 9 o’r Ddeddf, a Rhannau 3 a 5 o Atodlen 3 iddi.

Mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru bennu safonau ar gyfer tai cymdeithasol. Mae hefyd yn cyflwyno Rhan 3 o Atodlen 3 sy’n cynnwys diwygiadau canlyniadol i Ran 4. Caiff y Rhan hon ei chychwyn yn llawn, ac eithrio adran 129 (cymhwyso dyletswyddau sy’n ymwneud â ffioedd gwasanaeth i denantiaethau awdurdod lleol).

Mae Rhan 5 o’r Ddeddf yn diddymu cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai; fodd bynnag, ni chychwynnir ond adran 131(4)(c) o Ran 5 yn awr. Mae hyn yn diddymu paragraff 2, Rhan 3 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) (balans credyd pan nad yw cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai yn daladwy).

Mae Rhan 6 o’r Ddeddf yn diwygio Deddf Tai 1988 (p. 50) (Tenantiaethau Sicr - tenantiaethau na allant fod yn denantiaethau sicr). Cychwynnir adran 137 yn llawn er mwyn caniatáu i gymdeithasau tai cwbl gydfuddiannol roi tenantiaethau sicr.

Mae Rhan 8 o’r Ddeddf yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (Landlord a Thenant). Mae hefyd yn diddymu, mewn perthynas â Chymru, Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Diwygio) Cymru 2014. Mae’r diwygiadau yn caniatáu i hysbysiadau gael eu llofnodi ar ran tenantiaid.

Mae Rhan 9 o’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau amrywiol. Mae’r Gorchymyn hwn yn cychwyn y darpariaethau nad ydynt eisoes mewn grym. Mae adran 141 yn cyflwyno Rhan 5 o Atodlen 3 i’r Ddeddf. Mae hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (dccc 6). Mae adran 144 yn cynnwys pŵer Gweinidogion Cymru i wneud darpariaethau canlyniadol a throsiannol etc.

Mae erthygl  2(b) yn cychwyn darpariaethau penodol yn Rhannau 1 a 2 o’r Ddeddf, ac Atodlen 2 iddi, ond at ddibenion gwneud gorchmynion a rheoliadau, a rhoi cyfarwyddiadau yn unig.

Mae erthygl  2(c) yn cychwyn darpariaethau penodol yn Rhannau 1, 2 a 3 o’r Ddeddf, ond at ddibenion rhoi, adolygu neu ddirymu canllawiau statudol a dyroddi, diwygio neu dynnu’n ôl god ymarfer yn unig.


2014 Rhif 3127 (Cy. 316) (C. 136)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 1) 2014

Gwnaed                            24 Tachwedd 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 145(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014([1]).

Enwi a dehongli

1.(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 1) 2014.

(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.

Diwrnod penodedig

2. 1 Rhagfyr 2014 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym—

(a)     darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn Rhan 1 o’r Atodlen at bob diben;

(b)     darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn Rhan 2 o’r Atodlen at ddibenion gwneud gorchmynion a rheoliadau, a rhoi cyfarwyddiadau; ac

(c)     darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn Rhan 3 o’r Atodlen at ddibenion rhoi, adolygu neu ddirymu canllawiau statudol a dyroddi, diwygio neu dynnu’n ôl god ymarfer.

 

 

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

24 Tachwedd 2014

                   YR ATODLEN        Erthygl 2

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Rhagfyr 2014

RHAN 1

Darpariaethau sy’n dod i rym at bob diben

1. Adrannau 111 i 128 (safonau ar gyfer tai a ddarperir gan awdurdodau tai lleol).

2. Adran 130 a Rhan 3 o Atodlen 3 (diwygiadau canlyniadol sy’n berthnasol i Ran 4 o’r Ddeddf).

3. Adran 131(4)(c) (cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai - balans credyd pan nad yw cymhorthdal yn daladwy).

4. Adran 137 (caniatáu i gymdeithasau tai cwbl gydfuddiannol roi tenantiaethau sicr).

5. Adran 140 (diwygio Deddf Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993).

6. Adran 141 a Rhan 5 o Atodlen 3 (mân ddiwygiadau i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013).

7. Adran 144 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc).

RHAN 2

Darpariaethau sy’n dod i rym at ddibenion gwneud gorchmynion, rheoliadau a chyfarwyddiadau

8. Adran 2 (ystyr y prif dermau).

9. Adran 3 (awdurdod trwyddedu).

10. Adran 5 (eithriadau i’r gofyniad i landlord fod yn gofrestredig).

11. Adran 6 (gofyniad i  landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau gosod).

12. Adran 7 (gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau rheoli eiddo).

13. Adran 8 (eithriadau i ofynion i landlord fod yn drwyddedig).

14. Adran 10 (ystyr gwaith gosod).

15. Adran 12 (ystyr gwaith rheoli eiddo).

16. Adran 14 (dyletswydd i gynnal cofrestr mewn perthynas ag eiddo ar rent).

17. Adran 15 (cofrestru gan awdurdod trwyddedu).

18. Adran 16 (dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth).

19. Adran 19 (gofynion cais am drwydded).

20. Adran 20 (gofyniad person addas a phriodol).

21. Adran 21 (penderfynu ar gais).

22. Adran 23 (dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth).

23. Adran 29 (hysbysiadau cosbau penodedig).

24. Adran 34 (pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas ag adrannau 32 a 33).

25. Adran 42 (cyfarwyddiadau).

26. Adran 46 (rheoliadau ar ffioedd).

27. Adran 49 (dehongli Rhan 1 a mynegai o dermau wedi eu diffinio).

28. Adran 50 (dyletswydd i gynnal adolygiad digartrefedd a llunio strategaeth ddigartrefedd).

29. Adran 57 (a yw’n rhesymol parhau i feddiannu llety).

30. Adran 59 (addasrwydd llety).

31. Adran 72 (pŵer i ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau ynghylch angen blaenoriaethol am lety).

32. Adran 78 (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb).

33. Adran 80 (atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall).

34. Adran 81 (cysylltiad lleol).

35. Adran 86 (gweithdrefn ar gyfer adolygiad).

36. Adran 95 (cydweithredu).

37. Adran 99 (dehongli Rhan 2).

38. Paragraff 1 o Atodlen 2 (personau nad ydynt yn gymwys i dderbyn cymorth).

RHAN 3

Darpariaethau sy’n dod i rym at ddibenion rhoi, adolygu neu ddirymu canllawiau statudol a dyroddi, diwygio neu dynnu’n ôl god ymarfer

39. Adran 20 (gofyniad person addas a phriodol).

40. Adran 40 (cod ymarfer).

41. Adran 41 (canllawiau).

42. Adran 64 (sut i sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety ar gael).

43. Adran 98 (canllawiau).

44. Adran 106 (canllawiau).

 



([1])           2014 dccc 7.